Y Salmau 96:7-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Tylwythau y bobl, rhoddwch i'r Arglwydd, rhoddwch i'r Arglwydd ogoniant a nerth.

8. Rhoddwch i'r Arglwydd ogoniant ei enw: dygwch offrwm, a deuwch i'w gynteddoedd.

9. Addolwch yr Arglwydd mewn prydferthwch sancteiddrwydd: yr holl ddaear, ofnwch ger ei fron ef.

10. Dywedwch ymysg y cenhedloedd, Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu; a'r byd a sicrhaodd efe, fel nad ysgogo: efe a farna y bobl yn uniawn.

11. Llawenhaed y nefoedd, a gorfoledded y ddaear; rhued y môr a'i gyflawnder.

12. Gorfoledded y maes, a'r hyn oll y sydd ynddo: yna holl brennau y coed a ganant.

13. O flaen yr Arglwydd; canys y mae yn dyfod, canys y mae yn dyfod i farnu y ddaear: efe a farna y byd trwy gyfiawnder, a'r bobloedd â'i wirionedd.

Y Salmau 96