Y Salmau 94:21-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

21. Yn finteioedd y deuant yn erbyn enaid y cyfiawn, a gwaed gwirion a farnant yn euog.

22. Eithr yr Arglwydd sydd yn amddiffynfa i mi: a'm Duw yw craig fy nodded.

23. Ac efe a dâl iddynt eu hanwiredd, ac a'u tyr ymaith yn eu drygioni: yr Arglwydd ein Duw a'u tyr hwynt ymaith.

Y Salmau 94