1. Da yw moliannu yr Arglwydd, a chanu mawl i'th enw di, y Goruchaf:
2. A mynegi y bore am dy drugaredd, a'th wirionedd y nosweithiau;
3. Ar ddectant, ac ar y nabl; ac ar y delyn yn fyfyriol.
4. Canys llawenychaist fi, O Arglwydd, รข'th weithred: yng ngwaith dy ddwylo y gorfoleddaf.
5. Mor fawredig, O Arglwydd, yw dy weithredoedd! dwfn iawn yw dy feddyliau.