Y Salmau 91:5-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Nid ofni rhag dychryn nos; na rhag y saeth a ehedo y dydd:

6. Na rhag yr haint a rodio yn y tywyllwch; na rhag y dinistr a ddinistrio ganol dydd.

7. Wrth dy ystlys y cwymp mil, a deng mil wrth dy ddeheulaw: ond ni ddaw yn agos atat ti.

8. Yn unig ti a ganfyddi â'th lygaid, ac a weli dâl y rhai annuwiol.

9. Am i ti wneuthur yr Arglwydd fy noddfa, sef y Goruchaf, yn breswylfa i ti;

10. Ni ddigwydd i ti niwed, ac ni ddaw pla yn agos i'th babell.

Y Salmau 91