Y Salmau 90:3-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Troi ddyn i ddinistr; a dywedi, Dychwelwch, feibion dynion.

4. Canys mil o flynyddoedd ydynt yn dy olwg di fel doe, wedi yr êl heibio, ac fel gwyliadwriaeth nos.

5. Dygi hwynt ymaith megis â llifeiriant; y maent fel hun: y bore y maent fel llysieuyn a newidir.

6. Y bore y blodeua, ac y tyf; prynhawn y torrir ef ymaith, ac y gwywa.

7. Canys yn dy ddig y difethwyd ni, ac yn dy lidiowgrwydd y'n brawychwyd.

Y Salmau 90