17. Y rhai drygionus a ymchwelant i uffern, a'r holl genhedloedd a anghofiant Dduw.
18. Canys nid anghofir y tlawd byth: gobaith y trueiniaid ni chollir byth.
19. Cyfod, Arglwydd; na orfydded dyn: barner y cenhedloedd ger dy fron di.
20. Gosod, Arglwydd, ofn arnynt: fel y gwybyddo y cenhedloedd mai dynion ydynt. Sela.