Y Salmau 9:15-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Y cenhedloedd a soddasant yn y ffos a wnaethant: yn y rhwyd a guddiasant, y daliwyd eu troed eu hun.

16. Adwaenir yr Arglwydd wrth y farn a wna: yr annuwiol a faglwyd yng ngweithredoedd ei ddwylo ei hun. Higgaion. Sela.

17. Y rhai drygionus a ymchwelant i uffern, a'r holl genhedloedd a anghofiant Dduw.

18. Canys nid anghofir y tlawd byth: gobaith y trueiniaid ni chollir byth.

Y Salmau 9