1. Clodforaf di, O Arglwydd, â'm holl galon: mynegaf dy holl ryfeddodau.
2. Llawenychaf a gorfoleddaf ynot: canaf i'th enw di, y Goruchaf.
3. Pan ddychweler fy ngelynion yn eu hôl, hwy a gwympant ac a ddifethir o'th flaen di.
4. Canys gwnaethost fy marn a'm mater yn dda: eisteddaist ar orseddfainc, gan farnu yn gyfiawn.
5. Ceryddaist y cenhedloedd, distrywiaist yr annuwiol; eu henw hwynt a ddileaist byth bythol.