Y Salmau 89:49-52 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

49. Pa le y mae dy hen drugareddau, O Arglwydd, y rhai a dyngaist i Dafydd yn dy wirionedd?

50. Cofia, O Arglwydd, waradwydd dy weision, yr hwn a ddygais yn fy mynwes gan yr holl bobloedd fawrion;

51. A'r hwn y gwaradwyddodd dy elynion, O Arglwydd; â'r hwn y gwaradwyddasant ôl troed dy Eneiniog.

52. Bendigedig fyddo yr Arglwydd yn dragywydd. Amen, ac Amen.

Y Salmau 89