Y Salmau 89:19-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. Yna yr ymddiddenaist mewn gweledigaeth â'th Sanct, ac a ddywedaist, Gosodais gymorth ar un cadarn: dyrchefais un etholedig o'r bobl.

20. Cefais Dafydd fy ngwasanaethwr: eneiniais ef â'm holew sanctaidd:

21. Yr hwn y sicrheir fy llaw gydag ef: a'm braich a'i nertha ef.

22. Ni orthryma y gelyn ef; a'r mab anwir nis cystuddia ef.

23. Ac mi a goethaf ei elynion o'i flaen; a'i gaseion a drawaf.

24. Fy ngwirionedd hefyd a'm trugaredd fydd gydag ef; ac yn fy enw y dyrchefir ei gorn ef.

Y Salmau 89