Y Salmau 89:16-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. Yn dy enw di y gorfoleddant beunydd; ac yn dy gyfiawnder yr ymddyrchafant.

17. Canys godidowgrwydd eu cadernid hwynt ydwyt ti; ac yn dy ewyllys da y dyrchefir ein corn ni.

18. Canys yr Arglwydd yw ein tarian; a Sanct Israel yw ein Brenin.

19. Yna yr ymddiddenaist mewn gweledigaeth â'th Sanct, ac a ddywedaist, Gosodais gymorth ar un cadarn: dyrchefais un etholedig o'r bobl.

20. Cefais Dafydd fy ngwasanaethwr: eneiniais ef â'm holew sanctaidd:

Y Salmau 89