6. Oni throi di a'n bywhau ni, fel y llawenycho dy bobl ynot ti?
7. Dangos i ni, Arglwydd, dy drugaredd, a dod i ni dy iachawdwriaeth.
8. Gwrandawaf beth a ddywed yr Arglwydd Dduw: canys efe a draetha heddwch i'w bobl, ac i'w saint: ond na throant at ynfydrwydd.
9. Diau fod ei iechyd ef yn agos i'r rhai a'i hofnant; fel y trigo gogoniant yn ein tir ni.
10. Trugaredd a gwirionedd a ymgyfarfuant; cyfiawnder a heddwch a ymgusanasant.