Y Salmau 83:15-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Felly erlid di hwynt â'th dymestl, a dychryna hwynt â'th gorwynt.

16. Llanw eu hwynebau â gwarth; fel y ceisiont dy enw, O Arglwydd.

17. Cywilyddier a thralloder hwynt yn dragywydd; ie, gwaradwydder a difether hwynt:

18. Fel y gwypont mai tydi, yr hwn yn unig wyt JEHOFAH wrth dy enw, wyt Oruchaf ar yr holl ddaear.

Y Salmau 83