Y Salmau 83:1-5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. O Dduw, na ostega: na thaw, ac na fydd lonydd, O Dduw.

2. Canys wele, dy elynion sydd yn terfysgu; a'th gaseion yn cyfodi eu pennau.

3. Ymgyfrinachasant yn ddichellgar yn erbyn dy bobl, ac ymgyngorasant yn erbyn dy rai dirgel di.

4. Dywedasant, Deuwch, a difethwn hwynt fel na byddont yn genedl; ac na chofier enw Israel mwyach.

5. Canys ymgyngorasant yn unfryd; ac ymwnaethant i'th erbyn;

Y Salmau 83