Y Salmau 8:6-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Gwnaethost iddo arglwyddiaethu ar weithredoedd dy ddwylo; gosodaist bob peth dan ei draed ef:

7. Defaid ac ychen oll, ac anifeiliaid y maes hefyd;

8. Ehediaid y nefoedd, a physgod y môr, ac y sydd yn tramwyo llwybrau y moroedd.

9. Arglwydd ein Ior, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear!

Y Salmau 8