Y Salmau 7:5-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Erlidied y gelyn fy enaid, a goddiwedded: sathred hefyd fy mywyd i'r llawr, a gosoded fy ngogoniant yn y llwch. Sela.

6. Cyfod, Arglwydd, yn dy ddicllonedd, ymddyrcha, oherwydd llid fy ngelynion: deffro hefyd drosof i'r farn a orchmynnaist.

7. Felly cynulleidfa y bobloedd a'th amgylchynant: er eu mwyn dychwel dithau i'r uchelder.

8. Yr Arglwydd a farn y bobloedd: barn fi, O Arglwydd, yn ôl fy nghyfiawnder, ac yn ôl fy mherffeithrwydd sydd ynof.

9. Darfydded weithian anwiredd yr annuwiolion, eithr cyfarwydda di y cyfiawn: canys y Duw cyfiawn a chwilia y calonnau a'r arennau.

10. Fy amddiffyn sydd o Dduw, Iachawdwr y rhai uniawn o galon.

11. Duw sydd Farnydd cyfiawn, a Duw sydd ddicllon beunydd wrth yr annuwiol.

12. Oni ddychwel yr annuwiol, efe a hoga ei gleddyf: efe a anelodd ei fwa, ac a'i paratôdd.

13. Paratôdd hefyd iddo arfau angheuol: efe a drefnodd ei saethau yn erbyn yr erlidwyr.

Y Salmau 7