13. Ond myfi, fy ngweddi sydd atat ti, O Arglwydd, mewn amser cymeradwy: O Dduw, yn lluosowgrwydd dy drugaredd gwrando fi, yng ngwirionedd dy iachawdwriaeth.
14. Gwared fi o'r dom, ac na soddwyf: gwareder fi oddi wrth fy nghaseion, ac o'r dyfroedd dyfnion.
15. Na lifed y ffrwd ddwfr drosof, ac na lynced y dyfnder fi; na chaeed y pydew chwaith ei safn arnaf.
16. Clyw fi, Arglwydd; canys da yw dy drugaredd: yn ôl lliaws dy dosturiaethau edrych arnaf.
17. Ac na chuddia dy wyneb oddi wrth dy was; canys y mae cyfyngder arnaf: brysia, gwrando fi.
18. Nesâ at fy enaid, a gwared ef: achub fi oherwydd fy ngelynion.