Y Salmau 66:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Llawenfloeddiwch i Dduw, yr holl ddaear:

2. Datgenwch ogoniant ei enw: gwnewch ei foliant yn ogoneddus.

3. Dywedwch wrth Dduw, Mor ofnadwy wyt yn dy weithredoedd! oherwydd maint dy nerth, y cymer dy elynion arnynt fod yn ddarostyngedig i ti.

4. Yr holl ddaear a'th addolant di, ac a ganant i ti; ie, canant i'th enw. Sela.

Y Salmau 66