Y Salmau 65:10-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Gan ddyfrhau ei chefnau, a gostwng ei rhychau, yr ydwyt yn ei mwydo hi â chafodau, ac yn bendithio ei chnwd hi.

11. Coroni yr ydwyt y flwyddyn â'th ddaioni; a'th lwybrau a ddiferant fraster.

12. Diferant ar borfeydd yr anialwch: a'r bryniau a ymwregysant â hyfrydwch.

13. Y dolydd a wisgir â defaid, a'r dyffrynnoedd a orchuddir ag ŷd; am hynny y bloeddiant, ac y canant.

Y Salmau 65