Y Salmau 64:7-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Eithr Duw a'u saetha hwynt; â saeth ddisymwth yr archollir hwynt.

8. Felly hwy a wnânt i'w tafodau eu hun syrthio arnynt: pob un a'u gwelo a gilia.

9. A phob dyn a ofna, ac a fynega waith Duw: canys doeth ystyriant ei waith ef.

10. Y cyfiawn a lawenycha yn yr Arglwydd, ac a obeithia ynddo; a'r rhai uniawn o galon oll a orfoleddant.

Y Salmau 64