Y Salmau 64:2-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Cudd fi rhag cyfrinach y rhai drygionus; rhag terfysg gweithredwyr anwiredd:

3. Y rhai a hogant eu tafod fel cleddyf, ac a ergydiant eu saethau, sef geiriau chwerwon:

4. I saethu y perffaith yn ddirgel: yn ddisymwth y saethant ef, ac nid ofnant.

5. Ymwrolant mewn peth drygionus, ymchwedleuant am osod maglau yn ddirgel; dywedant, Pwy a'u gwêl hwynt?

6. Chwiliant allan anwireddau; gorffennant ddyfal chwilio: ceudod a chalon pob un ohonynt sydd ddofn.

Y Salmau 64