Y Salmau 6:3-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. A'm henaid a ddychrynwyd yn ddirfawr: tithau, Arglwydd, pa hyd?

4. Dychwel, Arglwydd, gwared fy enaid: achub fi er mwyn dy drugaredd.

5. Canys yn angau nid oes goffa amdanat: yn y bedd pwy a'th folianna?

6. Diffygiais gan fy ochain; bob nos yr ydwyf yn gwneuthur fy ngwely yn foddfa: yr ydwyf fi yn gwlychu fy ngorweddfa รข'm dagrau.

7. Treuliodd fy llygad gan ddicter: heneiddiodd oherwydd fy holl elynion.

8. Ciliwch oddi wrthyf, holl weithredwyr anwiredd: canys yr Arglwydd a glywodd lef fy wylofain.

Y Salmau 6