Y Salmau 58:7-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Todder hwynt fel dyfroedd sydd yn rhedeg yn wastad: pan saetho eu saethau, byddant megis wedi eu torri.

8. Aed ymaith fel malwoden dawdd, neu erthyl gwraig; fel na welont yr haul.

9. Cyn i'ch crochanau glywed y mieri, efe a'u cymer hwynt ymaith megis รข chorwynt, yn fyw, ac yn ei ddigofaint.

10. Y cyfiawn a lawenycha pan welo ddial: efe a ylch ei draed yng ngwaed yr annuwiol.

11. Fel y dywedo dyn, Diau fod ffrwyth i'r cyfiawn: diau fod Duw a farna ar y ddaear.

Y Salmau 58