8. Ti a gyfrifaist fy symudiadau: dod fy nagrau yn dy gostrel: onid ydynt yn dy lyfr di?
9. Y dydd y llefwyf arnat, yna y dychwelir fy ngelynion yn eu gwrthol: hyn a wn; am fod Duw gyda mi.
10. Yn Nuw y moliannaf ei air: yn yr Arglwydd y moliannaf ei air.
11. Yn Nuw yr ymddiriedais: nid ofnaf beth a wnĂȘl dyn i mi.
12. Arnaf fi, O Dduw, y mae dy addunedau: talaf i ti foliant.
13. Canys gwaredaist fy enaid rhag angau: oni waredi fy nhraed rhag syrthio, fel y rhodiwyf gerbron Duw yng ngoleuni y rhai byw?