8. Pâr i mi glywed gorfoledd a llawenydd; fel y llawenycho yr esgyrn a ddrylliaist.
9. Cuddia dy wyneb oddi wrth fy mhechodau, a dilea fy holl anwireddau.
10. Crea galon lân ynof, O Dduw; ac adnewydda ysbryd uniawn o'm mewn.
11. Na fwrw fi ymaith oddi ger dy fron; ac na chymer dy ysbryd sanctaidd oddi wrthyf.
12. Dyro drachefn i mi orfoledd dy iachawdwriaeth; ac â'th hael ysbryd cynnal fi.
13. Yna y dysgaf dy ffyrdd i rai anwir; a phechaduriaid a droir atat.
14. Gwared fi oddi wrth waed, O Dduw, Duw fy iachawdwriaeth: a'm tafod a gân yn llafar am dy gyfiawnder.
15. Arglwydd, agor fy ngwefusau, a'm genau a fynega dy foliant.