4. Ti, Dduw, yw fy Mrenin: gorchymyn iachawdwriaeth i Jacob.
5. Ynot ti y cilgwthiwn ni ein gelynion: yn dy enw di y sathrwn y rhai a gyfodant i'n herbyn.
6. Oherwydd nid yn fy mwa yr ymddiriedaf; nid fy nghleddyf chwaith a'm hachub.
7. Eithr ti a'n hachubaist ni oddi wrth ein gwrthwynebwyr, ac a waradwyddaist ein caseion.
8. Yn Nuw yr ymffrostiwn trwy y dydd; a ni a glodforwn dy enw yn dragywydd. Sela.
9. Ond ti a'n bwriaist ni ymaith, ac a'n gwaradwyddaist; ac nid wyt yn myned allan gyda'n lluoedd.
10. Gwnaethost i ni droi yn ôl oddi wrth y gelyn: a'n caseion a anrheithiasant iddynt eu hun.
11. Rhoddaist ni fel defaid i'w bwyta; a gwasgeraist ni ymysg y cenhedloedd.
12. Gwerthaist dy bobl heb elw, ac ni chwanegaist dy olud o'u gwerth hwynt.
13. Gosodaist ni yn warthrudd i'n cymdogion, yn watwargerdd ac yn wawd i'r rhai ydynt o'n hamgylch.