Y Salmau 41:6-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Ac os daw i'm hedrych, efe a ddywed gelwydd; ei galon a gasgl ati anwiredd: pan êl allan, efe a'i traetha.

7. Fy holl gaseion a gydhustyngant i'm herbyn: yn fy erbyn y dychmygant ddrwg i mi.

8. Aflwydd, meddant, a lŷn wrtho: a chan ei fod yn gorwedd, ni chyfyd mwy.

9. Hefyd y gŵr oedd annwyl gennyf, yr hwn yr ymddiriedais iddo, ac a fwytaodd fy mara, a ddyrchafodd ei sawdl i'm herbyn.

10. Eithr ti, Arglwydd, trugarha wrthyf; a chyfod fi, fel y talwyf iddynt.

11. Wrth hyn y gwn hoffi ohonot fi, am na chaiff fy ngelyn orfoleddu i'm herbyn.

12. Ond amdanaf fi, yn fy mherffeithrwydd y'm cynheli, ac y'm gosodi ger dy fron yn dragywydd.

13. Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel, o dragwyddoldeb a hyd dragwyddoldeb. Amen, ac Amen.

Y Salmau 41