5. Fy ngelynion a lefarant ddrwg amdanaf, gan ddywedyd, Pa bryd y bydd efe farw, ac y derfydd am ei enw ef?
6. Ac os daw i'm hedrych, efe a ddywed gelwydd; ei galon a gasgl ati anwiredd: pan êl allan, efe a'i traetha.
7. Fy holl gaseion a gydhustyngant i'm herbyn: yn fy erbyn y dychmygant ddrwg i mi.
8. Aflwydd, meddant, a lŷn wrtho: a chan ei fod yn gorwedd, ni chyfyd mwy.
9. Hefyd y gŵr oedd annwyl gennyf, yr hwn yr ymddiriedais iddo, ac a fwytaodd fy mara, a ddyrchafodd ei sawdl i'm herbyn.
10. Eithr ti, Arglwydd, trugarha wrthyf; a chyfod fi, fel y talwyf iddynt.
11. Wrth hyn y gwn hoffi ohonot fi, am na chaiff fy ngelyn orfoleddu i'm herbyn.
12. Ond amdanaf fi, yn fy mherffeithrwydd y'm cynheli, ac y'm gosodi ger dy fron yn dragywydd.