Y Salmau 38:5-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Fy nghleisiau a bydrasant ac a lygrasant, gan fy ynfydrwydd.

6. Crymwyd a darostyngwyd fi yn ddirfawr: beunydd yr ydwyf yn myned yn alarus.

7. Canys fy lwynau a lanwyd o ffieiddglwyf; ac nid oes iechyd yn fy nghnawd.

8. Gwanhawyd, a drylliwyd fi yn dra mawr: rhuais gan aflonyddwch fy nghalon.

9. O'th flaen di, Arglwydd, y mae fy holl ddymuniad; ac ni chuddiwyd fy uchenaid oddi wrthyt.

Y Salmau 38