Y Salmau 37:35-39 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

35. Gwelais yr annuwiol yn gadarn, ac yn frigog fel y llawryf gwyrdd.

36. Er hynny efe a aeth ymaith, ac wele, nid oedd mwy ohono: a mi a'i ceisiais, ac nid oedd i'w gael.

37. Ystyr y perffaith, ac edrych ar yr uniawn: canys diwedd y gŵr hwnnw fydd tangnefedd.

38. Ond y troseddwyr a gyd‐ddistrywir: diwedd yr annuwiolion a dorrir ymaith.

39. A iachawdwriaeth y cyfiawn sydd oddi wrth yr Arglwydd: efe yw eu nerth yn amser trallod.

Y Salmau 37