Y Salmau 36:1-5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Y mae anwiredd yr annuwiol yn dywedyd o fewn fy nghalon, nad oes ofn Duw o flaen ei lygaid ef.

2. Oherwydd ymwenieithio y mae efe iddo ei hun yn ei olwg ei hunan, nes cael ei anwiredd yn atgas.

3. Geiriau ei enau ydynt anwiredd a thwyll: peidiodd รข bod yn gall i wneuthur daioni.

4. Anwiredd a ddychymyg efe ar ei wely: efe a'i gesyd ei hun ar ffordd nid yw dda; nid ffiaidd ganddo ddrygioni.

5. Dy drugaredd, Arglwydd, sydd hyd y nefoedd, a'th wirionedd hyd y cymylau.

Y Salmau 36