Y Salmau 35:17-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. Arglwydd, pa hyd yr edrychi di ar hyn? gwared fy enaid rhag eu distryw hwynt, fy unig enaid rhag y llewod.

18. Mi a'th glodforaf yn y gynulleidfa fawr: moliannaf di ymhlith pobl lawer.

19. Na lawenychant o'm herwydd y rhai sydd elynion i mi heb achos: y sawl a'm casânt yn ddiachos, nac amneidiant â llygad.

20. Gan nad ymddiddanant yn dangnefeddus; eithr dychmygant eiriau dichellgar yn erbyn y rhai llonydd yn y tir.

21. Lledasant eu safn arnaf, gan ddywedyd, Ha, ha, gwelodd ein llygad.

22. Gwelaist hyn, Arglwydd: na thaw dithau; nac ymbellha oddi wrthyf, O Arglwydd.

23. Cyfod, a deffro i'm barn, sef i'm dadl, fy Nuw a'm Harglwydd.

24. Barn fi, Arglwydd fy Nuw, yn ôl dy gyfiawnder; ac na lawenhânt o'm plegid.

25. Na ddywedant yn eu calon, O ein gwynfyd: na ddywedant, Llyncasom ef.

Y Salmau 35