Y Salmau 33:13-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Yr Arglwydd sydd yn edrych i lawr o'r nefoedd: y mae yn gweled holl feibion dynion.

14. O breswyl ei drigfa yr edrych efe ar holl drigolion y ddaear.

15. Efe a gydluniodd eu calon hwynt: efe a ddeall eu holl weithredoedd.

16. Ni waredir brenin gan liaws llu: ni ddianc cadarn trwy ei fawr gryfder.

17. Peth ofer yw march i ymwared: ac nid achub efe neb trwy ei fawr gryfder.

18. Wele, y mae llygad yr Arglwydd ar y rhai a'i hofnant ef, sef ar y rhai a obeithiant yn ei drugaredd ef;

19. I waredu eu henaid rhag angau, ac i'w cadw yn fyw yn amser newyn.

Y Salmau 33