Y Salmau 31:22-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. Canys mi a ddywedais yn fy ffrwst, Fe'm bwriwyd allan o'th olwg: er hynny ti a wrandewaist lais fy ngweddïau pan lefais arnat.

23. Cerwch yr Arglwydd, ei holl saint ef: yr Arglwydd a geidw y ffyddloniaid, ac a dâl yn ehelaeth i'r neb a wna falchder.

24. Ymwrolwch, ac efe a gryfha eich calon, chwychwi oll y rhai ydych yn gobeithio yn yr Arglwydd.

Y Salmau 31