Y Salmau 30:9-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Pa fudd sydd yn fy ngwaed, pan ddisgynnwyf i'r ffos? a glodfora y llwch di? a fynega efe dy wirionedd?

10. Clyw, Arglwydd, a thrugarha wrthyf: Arglwydd, bydd gynorthwywr i mi.

11. Troaist fy ngalar yn llawenydd i mi: diosgaist fy sachwisg, a gwregysaist fi รข llawenydd;

12. Fel y cano fy ngogoniant i ti, ac na thawo. O Arglwydd fy Nuw, yn dragwyddol y'th foliannaf.

Y Salmau 30