Y Salmau 29:5-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Llef yr Arglwydd sydd yn dryllio y cedrwydd: ie, dryllia yr Arglwydd gedrwydd Libanus.

6. Efe a wna iddynt lamu fel llo; Libanus a Sirion fel llwdn unicorn.

7. Llef yr Arglwydd a wasgara y fflamau tân.

8. Llef yr Arglwydd a wna i'r anialwch grynu: yr Arglwydd a wna i anialwch Cades grynu.

9. Llef yr Arglwydd a wna i'r ewigod lydnu, ac a ddinoetha y coedydd: ac yn ei deml pawb a draetha ei ogoniant ef.

Y Salmau 29