Y Salmau 29:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Moeswch i'r Arglwydd, chwi feibion cedyrn, moeswch i'r Arglwydd ogoniant a nerth.

2. Moeswch i'r Arglwydd ogoniant ei enw: addolwch yr Arglwydd ym mhrydferthwch ei sancteiddrwydd.

3. Llef yr Arglwydd sydd ar y dyfroedd: Duw y gogoniant a darana; yr Arglwydd sydd ar y dyfroedd mawrion.

4. Llef yr Arglwydd sydd mewn grym: llef yr Arglwydd sydd mewn prydferthwch.

Y Salmau 29