Y Salmau 28:6-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Bendigedig fyddo yr Arglwydd: canys clybu lef fy ngweddïau.

7. Yr Arglwydd yw fy nerth, a'm tarian; ynddo ef yr ymddiriedodd fy nghalon, a myfi a gynorthwywyd: oherwydd hyn y llawenychodd fy nghalon, ac ar fy nghân y clodforaf ef.

8. Yr Arglwydd sydd nerth i'r cyfryw rai, a chadernid iachawdwriaeth ei Eneiniog yw efe.

9. Cadw dy bobl, a bendithia dy etifeddiaeth: portha hwynt hefyd, a dyrcha hwynt yn dragywydd.

Y Salmau 28