Y Salmau 18:40-44 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

40. Rhoddaist hefyd i mi warrau fy ngelynion; fel y difethwn fy nghaseion.

41. Gwaeddasant, ond nid oedd achubydd: sef ar yr Arglwydd, ond nid atebodd efe hwynt.

42. Maluriais hwynt hefyd fel llwch o flaen y gwynt: teflais hwynt allan megis tom yr heolydd.

43. Gwaredaist fi rhag cynhennau y bobl; gosodaist fi yn ben cenhedloedd: pobl nid adnabûm a'm gwasanaethant.

44. Pan glywant amdanaf, ufuddhânt i mi: meibion dieithr a gymerant arnynt ymddarostwng i mi.

Y Salmau 18