Y Salmau 18:26-29 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

26. A'r glân y gwnei lendid; ac â'r cyndyn yr ymgyndynni.

27. Canys ti a waredi y bobl gystuddiedig: ond ti a ostyngi olygon uchel.

28. Oherwydd ti a oleui fy nghannwyll: yr Arglwydd fy Nuw a lewyrcha fy nhywyllwch.

29. Oblegid ynot ti y rhedais trwy fyddin; ac yn fy Nuw y llemais dros fur.

Y Salmau 18