Y Salmau 17:5-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Cynnal fy ngherddediad yn dy lwybrau, fel na lithro fy nhraed.

6. Mi a elwais arnat; canys gwrandewi arnaf fi, O Dduw: gostwng dy glust ataf, ac erglyw fy ymadrodd.

7. Dangos dy ryfedd drugareddau,O Achubydd y rhai a ymddiriedant ynot, rhag y sawl a ymgyfodant yn erbyn dy ddeheulaw.

8. Cadw fi fel cannwyll llygad: cudd fi dan gysgod dy adenydd,

9. Rhag yr annuwiolion, y rhai a'm gorthrymant, rhag fy ngelynion marwol, y rhai a'm hamgylchant.

10. Caesant gan eu braster: รข'u genau y llefarant mewn balchder.

11. Ein cyniweirfa ni a glychynasant hwy yr awron: gosodasant eu llygaid i dynnu i lawr i'r ddaear.

12. Eu dull sydd fel llew a chwenychai ysglyfaethu, ac megis llew ieuanc yn aros mewn leoedd dirgel.

13. cyfod, Arglwydd, achub ei flaen ef, cwympa ef: gwared fy enaid rhag yr annuwio, yr hwn yw dy gleddyf di;

Y Salmau 17