Y Salmau 17:10-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Caesant gan eu braster: â'u genau y llefarant mewn balchder.

11. Ein cyniweirfa ni a glychynasant hwy yr awron: gosodasant eu llygaid i dynnu i lawr i'r ddaear.

12. Eu dull sydd fel llew a chwenychai ysglyfaethu, ac megis llew ieuanc yn aros mewn leoedd dirgel.

13. cyfod, Arglwydd, achub ei flaen ef, cwympa ef: gwared fy enaid rhag yr annuwio, yr hwn yw dy gleddyf di;

14. Rhag dynion, y rhai yw dy law, O Arglwydd, rhag dynion y byd, y rhai y mae eu rhan yn y bywyd yma, a'r rhai y llenwaist eu boliau â'th guddiedig drysor: llawn ydynt o feibion, a gadawant eu gweddill i'w rhai bychain.

15. Myfi a edrychaf ar dy wyneb mewn cyfiawnder: digonir fi, pan ddihunwyf, â'th ddelw di.

Y Salmau 17