Y Salmau 150:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Molwch yr Arglwydd. Molwch Dduw yn ei sancteiddrwydd: molwch ef yn ffurfafen ei nerth.

2. Molwch ef am ei gadernid: molwch ef yn ôl amlder ei fawredd.

3. Molwch ef â llais utgorn: molwch ef â nabl ac â thelyn.

4. Molwch ef â thympan ac â dawns: molwch ef â thannau ac ag organ.

Y Salmau 150