3. Heb absennu â'i dafod, heb wneuthur drwg i'w gymydog, ac heb dderbyn enllib yn erbyn ei gymydog.
4. Yr hwn y mae y drygionus yn ddirmygus yn ei olwg; ond a anrhydedda y rhai a ofnant yr Arglwydd: yr hwn a dwng i'w niwed ei hun, ac ni newidia.
5. Yr hwn ni roddes ei arian ar usuriaeth, ac ni chymer wobr yn erbyn y gwirion. A wnelo hyn, nid ysgogir yn dragywydd.