Y Salmau 147:17-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. Yr hwn sydd yn bwrw ei iâ fel tameidiau: pwy a erys gan ei oerni ef?

18. Efe a enfyn ei air, ac a'u tawdd hwynt: â'i wynt y chwyth efe, a'r dyfroedd a lifant.

19. Y mae efe yn mynegi ei eiriau i Jacob, ei ddeddfau a'i farnedigaethau i Israel.

20. Ni wnaeth efe felly ag un genedl; ac nid adnabuant ei farnedigaethau ef. Molwch yr Arglwydd.

Y Salmau 147