Y Salmau 143:2-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Ac na ddos i farn â'th was: oherwydd ni chyfiawnheir neb byw yn dy olwg di.

3. Canys y gelyn a erlidiodd fy enaid: curodd fy enaid i lawr: gwnaeth i mi drigo mewn tywyllwch, fel y rhai a fu feirw er ys talm.

4. Yna y pallodd fy ysbryd o'm mewn: ac y synnodd fy nghalon ynof.

5. Cofiais y dyddiau gynt; myfyriais ar dy holl waith: ac yng ngweithredoedd dy ddwylo y myfyriaf.

6. Lledais fy nwylo atat: fy enaid fel tir sychedig sydd yn hiraethu amdanat. Sela.

Y Salmau 143