Y Salmau 140:5-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Y beilchion a guddiasant faglau i mi, ac a estynasant rwyd wrth dannau ar ymyl y llwybrau: gosodasant hoenynnau ar fy medr. Sela.

6. Dywedais wrth yr Arglwydd, Fy Nuw ydwyt ti: clyw, O Arglwydd, lef fy ngweddïau.

7. Arglwydd Dduw, nerth fy iachawdwriaeth, gorchuddiaist fy mhen yn nydd brwydr.

8. Na chaniatâ, Arglwydd, ddymuniad yr annuwiol: na lwydda ei ddrwg feddwl; rhag eu balchïo hwynt. Sela.

9. Y pennaf o'r rhai a'm hamgylchyno, blinder eu gwefusau a'u gorchuddio.

10. Syrthied marwor arnynt: a bwrier hwynt yn tân; ac mewn ceuffosydd, fel na chyfodant.

11. Na sicrhaer dyn siaradus ar y ddaear: drwg a hela y gŵr traws i'w ddistryw.

12. Gwn y dadlau yr Arglwydd ddadl y truan, ac y barna efe y tlodion.

13. Y cyfiawn yn ddiau a glodforant dy enw di: y rhai uniawn a drigant ger dy fron di.

Y Salmau 140