Y Salmau 139:14-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Clodforaf di; canys ofnadwy a rhyfedd y'm gwnaed: rhyfedd yw dy weithredoedd; a'm henaid a ŵyr hynny yn dda.

15. Ni chuddiwyd fy sylwedd oddi wrthyt, pan y'm gwnaethpwyd yn ddirgel, ac y'm cywreiniwyd yn iselder y ddaear.

16. Dy lygaid a welsant fy annelwig ddefnydd; ac yn dy lyfr di yr ysgrifennwyd hwynt oll, y dydd y lluniwyd hwynt, pan nad oedd yr un ohonynt.

17. Am hynny mor werthfawr yw dy feddyliau gennyf, O Dduw! mor fawr yw eu swm hwynt!

18. Pe cyfrifwn hwynt, amlach ydynt na'r tywod: pan ddeffrowyf, gyda thi yr ydwyf yn wastad.

Y Salmau 139