Y Salmau 138:2-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Ymgrymaf tua'th deml sanctaidd, a chlodforaf dy enw, am dy drugaredd a'th wirionedd: oblegid ti a fawrheaist dy air uwchlaw dy enw oll.

3. Y dydd y llefais, y'm gwrandewaist; ac a'm cadarnheaist รข nerth yn fy enaid.

4. Holl frenhinoedd y ddaear a'th glodforant, O Arglwydd, pan glywant eiriau dy enau.

5. Canant hefyd am ffyrdd yr Arglwydd: canys mawr yw gogoniant yr Arglwydd.

6. Er bod yr Arglwydd yn uchel, eto efe a edrych ar yr isel: ond y balch a edwyn efe o hirbell.

Y Salmau 138