Y Salmau 136:22-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. Yn etifeddiaeth i Israel ei was: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

23. Yr hwn yn ein hiselradd a'n cofiodd ni: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:

24. Ac a'n hachubodd ni oddi wrth ein gelynion: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

25. Yr hwn sydd yn rhoddi ymborth i bob cnawd: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.

26. Clodforwch Dduw y nefoedd: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.

Y Salmau 136